Rôn i?n un o blant bach pum deg naw
?That'll Be The Day? ?n canu ar bob llaw
Cyn marw ar rhyw noson stormus ddu
Degawd newydd yn ein llaw
Ar drothwy y chwedegau draw
A geiriau Dylan yn sôn am fyd sy?n newid
Yng nghefn y car a?r gwynt yn ein gwallt
Yn chwerthin ar y byd wrth fomio lawr yr allt
Ninnau?n teithio?n bell gan fynd I nunlle
Chwe deg wyth ddaeth fel ergyd drwy?r tir
A?r wawr yn torri ar hunllef hir
A rhai yn canfod llais; rhaid oedd newid y byd
Ac un cam bach I ddyn, oedd fel llam mawr I ddynoloaeth
O, am rannu gefr yr eiliad honno nawr;
Ar gaeau Woodstock yn holl wres y nos
Ninnau?n mesur bob awr trwy ganu Roc?n?Rol
Gwrthdaro cenedlaethau wrth law
Eiliadau fel hyn
Sy?n aros yn fy meddwl i
Er I ninnau ddweud ffarwel
Eiliadau fel hyn
Yn aros yn fy meddwl i
Cyn I?r saithdegau ddod I ben
Yn Gracelands, tu ôl i?r llen
Daeth diwedd trist I Frenin y cyfan
Ac Elvis, Beatles a?r Rolling Stones
Yn gadael y llwyfan mor wag ar eu hôl
Ond yn loetran fel ysbrydion uwch fy mhen
Yn siapio ein bywydau ac yn llenwi pob can
Yn cynnal ein hysbryd hyd yr oriau mân
Ond rhywsut aethom ni ar goll yn llwyr
Eiliadau fel hyn
Sy?n aros yn fy meddwl i
Er I ninnau ddweud ffarwel
Eiliadau fel hyn
Yn aros yn fy meddwl I
Trwy strydoedd Llundain mewn hen dacsi du
A?r radio?n bloeddio i'th gofio di
?Imagine?; dy freuddwyd drosodd
Mi fûm i?n dawel iawn rhy hir
Rô?n innau?n gweld yn iawn, roedd pob dim mor glir
?Dwyt tithau ddim yn rhan o unrhyw gan
Roedd tristwch mawr tu ôl i?r wên
Soniaist ti rhywbeth am dyfu?n hen
Ac o brofi?r ing a?r gorfoledd