Mae'r haul yn codi,
Gan wenu ar y brad.
Cam yw y cysgod
Sy'n syrthio ar fy ngwlad. ... Stormydd ar y gorwel ...Cymyiau yn y gwynt Sy'n chwipio baneri'r Ddraig Goch Yn gynt ac yn gynt
Mae duwch dwfn fy nghalon Yn pwyso arnaf i.
'Dwi 'mhell oddi cartre gwranda at fy nghri!
Mi groesai'r afon drosot ti! ... Stormydd ar y gwynt ... Cymylau yn y gwynt
Oo, mi groesai'r afon drosot ti!
A'r cyffro'n gwneud i'm calon guro'n gynt ac yn gynt.-
Pelydrau'r haul sy'n llunio
Cysgod mawr y Mynydd Du,
Gan gellwair ar ein heniaith:
Pentre'n boddi dan y Ili.
Pa mor hir...
... Cyn i'r frwydr droi yn ryfel?
... Cyn i'r anafiadau frifo?
... Cyn i'r gwaed lifo?
Mae'r argae yn adfeilio Dan bwysau'r hyn a wnaed. yfory, daw llifogydd ... Afonydd o waed.
Croesi'r Afon