Dreifo lawr y draffordd mewn Cadillac
Un o'r hen ganeuon yn chwarae yn y bac
Paid gofyn le 'wy'n mynd, na phryd dda'I nôl
Ond glywes bod addewid yn yr uffern hyn
Ga'I lety mae'n debyg yn rhywle fan draw
A'r gwynt yn fain drwy'r ffenestri a'r baw
Dim ond teithiwr unig
Ar y fford I weld y Diawl
Levi's a Beiblau
Ymhobman dros y wlad
Dim ond cofebau'r
Addewidion sy'n llwch nawr dan fy nhraed
Levi's a Beiblau
Chwalu gan y storom chwalu gan y gwynt
Teimlo cysgod ysbryd cyndeidiau ar eu hynt
Am bob dyn anonest un sydd yn iawn
Mae'n anodd bod yn sant mewn byd fel hyn
Wrth edrych mla'n I'r pellter
Llety arall yn niwl
Mae'r car yn mynd I'r eitha'
A fi yn mynd I'r Diawl
Saf arno ? saf arno a dos
Levi's a Beiblau