Wen I yn blentyn diniwed iawn
Ac roedd y byd o ddu a gwyn yn llawn
Erbyn hyn rwy'n gweld y cwbwl lot fel gwawn
Agwedd sur y ganrif 'ma
Sa'I mo'yn cyffro sa'I mo'yn g'neud dim
'Dw I'n ca'l fy nhynnu bob ffordd rwy'n teimlo'n wan
Nid yw'r dyn tawel yn fudan
Arwr w'I ti ond I fi rwy'n ddim
Dyma'r ganrif newy'
Schizophrenia dyma ni
Dyma'r ganrif newy'
Fi'n sic fi'n sal fi'n sinic sur fi
Os dyma beth ti mo'yn
Os dyma beth ti mo'yn wir
Dyma'r ganrif newy'
Gweles I oreuon cenhedlaeth gyfan
Yn bennu hunen gyda'r drygs a dryll
Talent yn toddi gyda'r gwaed ar lawr
Na beth sy'n gwerthu'r papur dyddiol nawr
Dyma'r ganrif newy'
Schizophrenia dyma ni
Dyma'r ganrif newy'
Fi'n sic fi'n sal fi'n sinic sur fi
Os dyma beth ti mo'yn
Os dyma beth ti mo'yn wir
Dyma'r ganrif newy'