Cyfadda 'nawr mae'th fyd mor simsan
Rhaid diodde'r gwawd a'r dirmyg ddaw i'th ran;
Wrth ddringo'r ystol rhaid cofio gwylio'th draed
A chofio dy le,
Ie cofia, paid byth sbio lawr;
Pa ffordd? Rhaid dewis nawr,
A mentro does a ddêl,
Ni ddaw'r cyfle nôl;
Dim fel fi'
Mae'r llawr yn crynu dan fy nhraed;
Pob dim yn crynu dan fy nhraed.
Tyrd allan o'th gornel
A chamu o'th freuddwyd;
Agor y ffenast
I'r golau lifo mewn i'th fyd;
Mae'n ddu yn y twnel
Ond paid â cholli'th ffydd
Syth yn dy flaen,
Cei weld yn siwr, 'dacw mae'r golau'n blaen;
Ti'n ifanc ffrind,
Rhaid troi a mynd
A mentro doed a ddêl;
Ni ddaw'r cyfle 'nôl;
Dim fel fi'
Mae'r llawr yn crynu dan fy nhraed;
Pob dim yn crynu dan fy nhraed.
Tu draw i'th gornel mae yna fywyd gwell,
Llosga dy garpiau, mentra'th lwc,
Dangos dy hun i'r byd;
Ail-greu dy fyd,
Ail-godi'th dy,
Ail-drefnu'th hun yn llwyr...
A dyma fi'
Mae'r llawr yn crynu dan fy nhraed;
Pob dim yn crynu dan fy nhraed.
I orffen... dan fy nhraed, a;m gwaed, mae'n rhaid yn llifo, a llenwi'n 'mhen.
Mae'r llawr yn crynu dan fy nhraed.
A dyma fi'
Mae'r llawr yn crynu dan fy nhraed;
Pob dim yn crynu dan fy nhraed .....
Fragen über Alarm
Was ist der Plural von Alarm?
Was ist ein stiller Alarm?
Wie lange darf eine Alarmanlage hupen?